Sefydlwyd | 1995 |
---|---|
lleolwyd yn | Ewrop, Unol Daleithiau America |
Wedi'i lleoli yn | Y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://freenode.net/ |
DNS cynradd | irc://chat.freenode.net/ |
Defnyddwyr ar gyfartaledd | 80,000 - 90,000 |
Sianeli cyfartalog | 50,000 |
Gweinyddwyr cyfartalog | 12 |
Prif gynnwys | Cyhoeddus / anghyfyngedig |
Mae freenode, a elwid gynt yn "Open Projects Network" yn rhwydwaith sgwrsio IRC ar y rhyngrwyd a ddefnyddir i drafod prosiectau rhwng cyfoedion. Cychwynwyd y rhwydweithio ar gyfrifiaduron Linux ac ers 2013 dyma'r rhwydwaith IRC mwyaf, gyda dros 80,000 o ddefnyddwyr a 40,000 o sianeli.[1]
Rheolir freenode yn ganolog gan weithredwyr byd-eang (a elwir hefyd yn '"freenode staffers") sydd a mynediad ar draws yr holl weinyddwyr, sydd wedi cael eu rhoi gan drydydd parti. Gellir canfod y gweinyddwyr i gyd ar yr URL chat.freenode.net. Mae'r gweinyddwyr yn cael eu "cyfrannu" i'r rhwydwaith yn hytrach na'u dolennu.[2]
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar brosiectau cyfarwyddo cyfoedion, meddalwedd agored a sefydliadau. I gynorthwyo gyda hyn, rhannwyd freenode yn "ofod enwau": # yn sylfaenol ac ## yn eilaidd; mae angen cofrestru i ddefnyddio'r cyntaf a darberir yr ail ar system cyntaf i'r felin.[3]